Cartref > Digwyddiadur > Pictiwrs a Pram: "Wuthering heights"
Gwybodaeth
Mae 'Pictwrs a Pram' yn cynnig profiad unigryw i rieni/gofalwyr sydd â babanod dan 12 mis oed. Mae'n gyfle i weld y ffilmiau diweddaraf mewn amgylchedd diogel ac anfeirniadol, gyda'r sain yn îs a mwy o olau. Ni fydd modd dewis ei sedd wrth archebu ond nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael (20) felly bydd digonedd o le yn y Sinema.
Peidiwch â phoeni am eich pram; gallwch ei gadw yn y sinema. Os yw eich babi yn ffyslyd neu angen bwyd, gallwch deimlo'n gyfforddus yn gwneud hynny wrth wylio'r ffilm.
Mae’r dangosiadau am ddim i’r babanod, ac oedolion yn talu £5. Mae ‘Pictiwrs a Pram’ ar gyfer rhieni/gofalwyr a babi yn unig ond os oes gennych blentyn hŷn gyda chi a'r babi a bod y dystysgrif yn U, PG neu 12A, gallant hefyd fynychu (does dim angen tocyn i blant dan 2 oed).
Y Ffilm
Stori garu angerddol, gythryblus wedi'i lleoli ar rostiroedd Swydd Efrog, yn archwilio'r berthynas ddwys a dinistriol rhwng Heathcliff a Catherine Earnshaw, wedi'i chyfarwyddo gan Emerald Fennell (Promising Young Woman, Saltburn).
Sain Ddisgrifiad (AD) ar gael
Emerald Fennell, 2026, 135 mins
Margot Robbie, Jacob Elorodi
Dydd Iau 5 Mawrth, 10.30am
£5
