Cartref > Digwyddiadur > No Other Choice (15)
Gwybodaeth
Coreeg gydag Isdeitlau Saesneg
Mae Park Chan-wook yn gyfarwyddwr chwedlonol o Dde Corea sy'n adnabyddus am wneud ffilmiau sy’n brydferth ac yn syfrdanol ar y run pryd. Daeth yn adnabyddus gyda'i ffilmiau Oldboy, The Vengance Trilogy a The Handmaiden, gan ennill enw i’w hun am ei allu i gyfuno ansicrwydd dwys gyda straeon dwfn, emosiynol. Boed yn ffilm gyffro am ddial neu’n ffilm ramant, mae ei waith bob amser yn weledol drawiadol ac yn ysgogi meddwl.
Mae ei ffilm newydd, No Other Choice, yn gomedi-gyffro dywyll am ddyn sy'n colli ei swydd ac yn cael ei chwalu gan farchnad swyddi ddidostur. Mae'r cyn-reolwr melin bapur yn troi at drais mewn ymgais daer i adennill ei urddas. Mae'n olwg finiog, weithiau'n ddoniol, ac yn llawn tensiwn ar ba mor bell y bydd pobl yn mynd i oroesi yn economi llym heddiw. Ffilm na ddylid ei cholli ar y sgrin fawr yn Pontio.
Park Chan-wook, 2025, 139 mins
Lee Byung-hun, Son Ye-jin, Park Hee-soon
Gwener 13-Iau 19 Chwefror
Safonol: £8.50
Dros 60: £7.50
Myfyriwr / Dan 18: £6.50
