Cartref > Digwyddiadur > The Devils (18)
Gwybodaeth
Ar ôl mwy na hanner canrif o fod yn anghof, mae The Devils gan Ken Russell yn dychwelyd o'r diwedd ar ffurf fersiwn y cyfarwyddwr, sy'n adfer ei rym a'i weledigaeth lawn. Wedi'i hysbrydoli gan stori wir Urbain Grandier, offeiriad o'r 17eg ganrif a gyhuddwyd o swyno lleianod, mae'r ffilm yn datgelu'r gynghrair beryglus rhwng yr eglwys a'r wladwriaeth. Gyda golygfeydd o erledigaeth grefyddol, hysteria a llygredd, mae The Devils yn parhau i fod yn gampwaith hynod o ddynol—yn feiddgar, yn fythgofiadwy ac yn werth yr aros.
Sain Ddisgrifiad (AD) ar gael
Gallwn ofyn i gwsmeriaid am gerdyn adnabod (ID) i wirio oed cwsmeriaid sy'n dod i rai dangosiadau yn enwedig ffilmiau gyda thystysgrif 15 neu 18. Mae cardiau adnabod a dderbynnir yn cynnwys pasbort, trwydded yrru, cerdyn a gymeradwyir gan PASS (fel CitizenCard), neu unrhyw gerdyn adnabod gan y Llywodraeth sydd â llun ac yn dangos dyddiad geni'r unigolyn.
Ken Russell, 1972, 114 mins
Oliver Reed, Vanessa Redgrave, Gemma Jones
Gwener 13-Mercher 18 Tachwedd
Safonol: £8.50
Dros 60: £7.50
Myfyriwr / Dan 18: £6.50
