Cartref > Digwyddiadur > Dial 1 for UK
Gwybodaeth
Gan Mohit Mathur
Cyfarwyddwyd gan Phil Willmott
Bob nos yn New Delhi, mae Uday Kumar (a elwir yn UK) yn ateb galwadau gan bobl mewn panig i Linell Gymorth Goldmine Crypto GB, gan ffantasïo am fod yn Brydeinig ei hun, llenwi ei sianel YouTube â gweledigaethau o fywyd newydd soffistigedig llawn cyfoeth, a bwyta pysgod a sglodion ac yfed te gyda'r teulu brenhinol. Yna mae sgwrs ar hap yn ystod amser paned yn datgelu sut y gallai wireddu'r cyfan. Ac ar doriad gwawr, dim ond wythnos yn ddiweddarach, mae'n gadael y ganolfan alwadau am byth ac yn mynd ar awyren am y tro cyntaf erioed, i gymryd ei le ymhlith y Saeson.
Yr hyn sy'n digwydd nesaf yw pwnc drama un-dyn ddoniol a theimladwy Mohit Mathur am obeithion uchel sy’n cael eu darostwng yn Hounslow, a dylanwadwr sy’n cael ei amddifadu o ddylanwad yng nghanol realiti creulon sector gofal y Deyrnas Unedig, gan ofyn sut a pham, bob blwyddyn, mae cannoedd o ddynion ifanc fel UK yn diflannu heb ddim ôl ohonynt.
Cyfle prin i ailystyried llawer o’r hyn rydych wedi'i gymryd yn ganiataol am y rhai sy'n gobeithio byw yn ein plith yn y cynhyrchiad cyntaf gan ddramodydd newydd cyffrous a pherfformiwr o'r West End, mewn cydweithrediad ag un o wneuthurwyr theatr mwyaf profiadol y Deyrnas Unedig.
Nos Iau 15 Hydref, 7.30pm
Stiwdio
Hyd y sioe: 55 munud
Safonol: £14
Dros 60: £12
Myfyrwyr a dan 18: £12
12+ (trafodir hiliaeth, trawma yn ymwneud â mewnfudo a heriau iechyd meddwl)
Sgwrs ar ôl y sioe gyda Mohit Mathur
